Ymgyrch Canfod Canser yr Ysgyfaint yn Gynharach Cymru

Siaradwch â'ch meddyg teulu, nid chi eich hun

Mae Cancer Research UK wedi lansio ymgyrch mewn partneriaeth â GIG Cymru i helpu mwy o bobl i ganfod canser yr ysgyfaint yn gynnar.

Peswch sydd wedi para am 3 wythnos neu fwy? Colli pwysau heb esboniad? Byr eich gwynt? Mae bob amser yn well mynd i weld meddyg.

Symptomau canser yr ysgyfaint

Eicon o gorff person gydag ysgyfaint glas wedi’u hamlygu mewn cylch glas.

Gall unrhyw un ddatblygu canser, p’un a ydych chi’n ysmygu ai peidio.

O ran canfod canser, y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw gwrando ar eich corff. Peidiwch ag anwybyddu newidiadau sy'n anarferol i chi.

Dyma rai arwyddion o ganser yr ysgyfaint: 

  • Teimlo'n fyr eich gwynt neu'n cael trafferth anadlu 
  • Peswch sy’n cau mynd 
  • Colli pwysau heb geisio gwneud hynny

Beth bynnag yw'r newid, os nad yw'n arferol i chi, siaradwch â'ch meddyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid canser fydd hyn. Ond os mai dyna sydd, gall dod o hyd iddo yn gynnar wneud gwahaniaeth go iawn.

Pwy sy’n gallu datblygu canser yr ysgyfaint?

Gall unrhyw un ddatblygu canser yr ysgyfaint p'un a ydych chi'n ysmygu ai peidio, ond mae'n fwy cyffredin wrth i ni fynd yn hŷn ac mewn pobl sy'n ysmygu. Mae'r rhan fwyaf o achosion o ganser yr ysgyfaint sy'n cael eu diagnosio yng Nghymru ymhlith pobl 50 oed a throsodd (tudalen we Saesneg).

Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, waeth pwy ydych chi, beth yw eich oed, neu beth rydych chi'n meddwl sy'n achosi'ch symptomau, mae'ch meddyg eisiau clywed gennych.

Peidiwch â chymryd mai ‘dim ond’ mynd yn hŷn neu gyflwr arall sydd gennych sy’n gyfrifol am y  newidiadau anarferol. Os yw rhywbeth yn anarferol i chi – peidiwch â'i anwybyddu, cysylltwch â'ch meddygfa.

Mae canfod canser yn gynnar yn achub bywydau.

Dydw i ddim yn siŵr a yw fy symptomau yn ddifrifol

Cofiwch, chi sy'n adnabod eich corff orau. Os nad yw rhywbeth yn edrych neu'n teimlo'n iawn, mae eich meddyg teulu eisiau clywed gennych. Nid eich gwaith chi yw gwybod beth sydd o'i le, ond eich gwaith chi yw gwrando ar eich corff. P'un a yw'n beswch sydd wedi para 3 wythnos neu fwy, neu os ydych chi'n fyr eich wynt yn gwneud y pethau roeddech chi'n arfer eu gwneud heb broblem, os yw rhywbeth yn anarferol i chi – mae bob amser yn well mynd i weld meddyg. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid canser fydd hyn, ond os mai dyna sydd, gallai ei ganfod yn gynnar wneud gwahaniaeth mawr.

Cael apwyntiad i weld meddyg teulu

Dyn yn gafael mewn ffôn clyfar yn ffonio’r feddygfa.

Os nad ydych wedi gallu cael apwyntiad y tro cyntaf, cofiwch ddal ati. Hyd yn oed pan fydd eich meddygfa yn brysur iawn, maen nhw'n gwneud popeth o fewn eu gallu i siarad â chi cyn gynted â phosib. Efallai y byddant hyd yn oed yn gallu awgrymu gweithiwr iechyd proffesiynol addas a fyddai’n gallu eich helpu yn gynt na'ch meddyg teulu.

Mae rhai meddygfeydd yn cynnig mwy nag un ffordd o drefnu apwyntiad. Gall hyn gynnwys ffonio, llenwi e-ymgynghoriad neu ffurflen ar-lein, a chlinigau galw heibio. Os ydych eisoes wedi rhoi cynnig ar un dull o gysylltu, edrychwch i weld pa opsiynau eraill sydd gan eich meddygfa i'w cynnig ar eu gwefan.

Sut i gofrestru gyda meddyg teulu

Byw yng Nghymru? Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru gyda meddyg teulu lleol.

Byddwch yn gallu gwneud apwyntiadau'n haws ac mae'n golygu y byddwch yn cael gwahoddiadau i sgrinio canser yn awtomatig – sef dull canfod canser yn gynnar hollbwysig i bobl heb symptomau - pan fyddwch yn gymwys.

Branwen yn rhannu ei stori am gael canser yr ysgyfaint gyda ni

Mae gennym ragor o wybodaeth

Ydych chi’n poeni am y risgiau canser sy’n gysylltiedig â’ch swydd? Darllenwch am risgiau canser yn y gweithle (tudalen we Saesneg).

Dysgu mwy am canser yr ysgyfaint (tudalen we Saesneg)

Rate this page:

No votes yet
Thank you!
We've recently made some changes to the site, tell us what you think