A split screen image with the Senedd, Wales on the left and a doctor and a patient hugging on the right.

Trobwynt i ganser yng Nghymru

O gyd-drafodaethau i achub bywydau. Ar 7 Mai 2026, bydd Cymru yn cynnal etholiad y Senedd. Ydych chi'n byw yng Nghymru? Mae eich llais yn bwerus. Helpwch i roi sylw i ganser.

English

You can read this content in English.

Read in English

Rydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i weithredu

Canser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gan effeithio ar deuluoedd ym mhobman. Dyna pam mae angen i bob plaid wleidyddol ymrwymo i gyflawni'r newid polisi hirdymor y mae ei angen ar gyfer pobl y mae canser yn effeithio arnynt.

Gallai'r etholiad hwn fod yn drobwynt i ganser yng Nghymru. Ond mae angen eich help arnom.

Achub oddeutu 5,500 o fywydau rhwng nawr a 2040

Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr ym maes canser yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Ac eto, yng Nghymru, nid oes cynllun hirdymor i fynd i'r afael â chanser; mae'r GIG yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw cynyddol, ac mae anghydraddoldebau clir yng nghanlyniadau canser.

Dyna pam, ym mis Medi, gwnaethom nodi pedwar cam allweddol y gall Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i helpu i achub oddeutu 5,500 o fywydau rhwng nawr a 2040.

Ein camau gweithredu allweddol:

Navy icon of UK countries map with Wales highlighted in magenta.

Cyflwyno strategaeth canser hirdymor

O ran trechu canser, mae strategaethau canser hirdymor sydd wedi'u cefnogi'n dda yn allweddol i lwyddiant. Dyna pam mae angen strategaeth canser genedlaethol arnom yng Nghymru, sy'n nodi cynllun hirdymor ar gyfer atal, diagnosis, triniaeth ac ymchwil i ganser.

Icon_doctor_navy.

Cefnogi'r GIG i ddarparu gwasanaethau canser

Mae'r gweithlu canser yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau canser i bobl ledled Cymru, ond maent yn parhau i weithio mewn amodau cynyddol heriol. Rhaid i ni gryfhau'r GIG yng Nghymru drwy gefnogi meddygon teulu a chryfhau capasiti o fewn y gweithlu canser, gan sicrhau bod ganddynt yr offer a'r technolegau cwbl fodern hanfodol. Mae hyn yn cynnwys gwella casglu data a chynllunio gweithlu hirdymor.

icon_no_smoking_02_navy.

Brwydro yn erbyn canser yr ysgyfaint

Canser yr ysgyfaint yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganser yng Nghymru. Gan mai tybaco yw prif achos canser yr ysgyfaint, mae atal y canserau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf yn hanfodol. Er mwyn mynd i'r afael â chanser yr ysgyfaint, rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r Bil Tybaco a Fêps ar waith, gan gryfhau gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu, a chyflwyno rhaglen sgrinio am ganser yr ysgyfaint ledled Cymru.

Navy stats icon.

Cefnogi ymchwil

Mae ymchwil yn allweddol i wella atal canser, diagnosis cynharach, a thriniaethau mwy effeithiol. Gall Llywodraeth Cymru gefnogi hyn drwy fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru a chryfhau arloesedd i gael profion, triniaethau a thechnolegau newydd i mewn i'r system gofal iechyd yn gyflymach.

Ein maniffesto

A photo of two women walking on the beach laughing and hugging.

Bywydau hirach, gwell: Maniffesto ar gyfer ymchwil a gofal canser yng Nghymru

Darllenwch ein maniffesto i ddysgu rhagor am y newid polisi yr ydym yn galw amdano.

Erthyglau cysylltiedig

Ffyrdd eraill o gymryd rhan

Dewch yn Llysgennad Ymgyrchoedd

Yn ystod cyfnod yr etholiad hwn a'r tu hwnt, mae angen Llysgenhadon Ymgyrchoedd yng Nghymru yn fwy nag erioed i helpu i gysylltu â gwleidyddion lleol, rhannu straeon anogol, a lledaenu'r neges am ein hymgyrch i wella canlyniadau canser.

Gwirfoddoli gyda ni