Cancer Research UK logo.
Search
  • Search
A photo of two women walking on the beach laughing and hugging.

Bywydau hirach, gwell: Maniffesto ar gyfer ymchwil a gofal canser yng Nghymru

Mae ein maniffesto yn amlinellu'r mesurau ac ymrwymiadau mae'n rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru eu gwneud i helpu atal tua 5,500 o farwolaethau canser rhwng nawr a 2040. 

Darllenwch ein maniffesto yn y Gymraeg

Michelle Mitchell portrait in blue.

Gyda'n gilydd, gallwn adeiladu dyfodol lle mae pobl yn byw bywydau hirach, gwell, trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau ac ymchwil canser ac ysgogi'r newidiadau y mae eu taer angen ar Gymru.

- Michelle Mitchell OBE, Prif Weithredwr

Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr ar ganser yn y 50 mlynedd diwethaf 

A photo of a scientist working in a lab.

Ers y 1970au, mae cyfraddau marwolaethau canser wedi syrthio o tua 16% yng Nghymru, diolch i welliannau mewn atal, diagnosio a thrin canser. 

Ond canser yw problem iechyd ddiffiniol ein hoes o hyd 

A photo of two people hugging and kissing.

Bydd bron 1 mewn 2 ohonom yn cael canser yn ein hoes

. Mae'n brif achos marwolaeth yng Nghymru, gan effeithio ar bob teulu ym mhob etholaeth. 

Ochr yn ochr â chost ddynol ddinistriol canser, cafodd tua 16,000 o flynyddoedd cynhyrchiol bywyd eu colli i ganser yng Nghymru yn 2023 yn unig. 

Mae'r her yn tyfu o hyd 

A photo of a healthcare professional taking blood from a patient.

Wrth i'n poblogaeth dyfu a heneiddio, mae'r nifer o achosion canser newydd yn cynyddu. Erbyn 2038–2040, rhagwelir y bydd nifer yr achosion newydd yn cynyddu mwy nag un rhan o ddeg o'i gymharu â heddiw. Mae hynny tua 24,800 achos newydd yn cael eu diagnosio bob blwyddyn yng Nghymru. 

Ac nid yw canser yn effeithio ar bobl yn gyfartal. Mae cyfraddau marwolaethau canser bron 48% yn uwch i bobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru o'i gymharu â'r lleiaf difreintiedig. Mae hyn yn annerbyniol. 

Ond mae'n gyfle hefyd 

A photo of a researcher working in a lab.

Rydym mewn oes aur o ran ymchwil i ganser. Mae offer a thechnoleg newydd yn golygu y gallwn wneud pethau mewn oriau oedd yn arfer cymryd blynyddoedd, gan ein rhoi ar fin cymryd camau mawr mewn sut rydym yn atal, diagnosio a thrin canser. 

Bydd buddsoddi mewn ymchwil, atal, diagnosio cynnar a thriniaeth canser yn: 

  • achub a gwella bywydau 

  • o fudd i'r GIG 

  • gwella cynhyrchiant

  • cryfhau'r economi 

Gallwn ni, ac mae'n rhaid i ni, wneud yn well i bobl a effeithir gan ganser 

A photo of Campaign Ambassadors in Wales.

Rydym wedi llwyddo o'r blaen a gallwn lwyddo eto. Gydag ewyllys ac arweinyddiaeth wleidyddol, gallwn oll gael rhagor o amserau gyda'r bobl rydym yn eu caru. 

Mae ein nod yn syml: Bywydau hirach, gwell 

A photo of Cancer Research UK Campaigns Ambassador holding a sign that reads Gyda'n gilydd rydym yn curo cancr in Welsh.

Dylai Llywodraeth Cymru wneud ymrwymiad cenedlaethol i leihau'r gyfradd marwolaethau o ganser o 15% erbyn 2040, a fyddai'n atal tua 5,500 o farwolaethau canser. 

Mae ein maniffesto yn amlinellu'r mesurau ar unwaith ac ymrwymiadau tymor hir y gall llywodraeth sy'n dod i mewn eu gwneud i gynyddu goroesi canser a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn byw bywydau hirach, gwell, yn rhydd rhag ofn canser. 

Darllenwch ein maniffesto yn y Gymraeg

Ein pedwar argymhelliad

Argymhelliad 1

Datblygu, cyllido a chyflawni strategaeth ganser hirdymor i wella canlyniadau canser yng Nghymru.

Mae angen ymagwedd uchelgeisiol genedlaethol ar Gymru at wella canlyniadau canser sy'n cael ei hategu gan strategaeth ganser hirdymor.

Mae’n rhaid i hyn gael ei gyflawni trwy drefniadau arweinyddiaeth cryf a llywodraethiant effeithiol, gyda ffocws ar ysgogi diagnosis cynharach, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd a lleihau marwolaethau canser. Mae’n rhaid i’r llywodraeth ddefnyddio hyn fel cyfle i ddysgu gwersi gan genhedloedd sydd wedi llamu ymlaen mewn mynd i’r afael â chanser, tra’n harneisio cryfderau Cymreig hefyd.

Argymhelliad 2

Cefnogi'r GIG i gyflawni gwasanaethau canser i bawb, yn awr ac yn y dyfodol.

Rydym yn rhagweld dyfodol lle bydd pob unigolyn yng Nghymru, ble bynnag y maen nhw'n byw, â mynediad cyflym, teg at y gorau oll mewn atal canser, diagnosis cynharach a thriniaethau caredicach, gwell.

I wireddu hyn, mae'n rhaid i ni gryfhau'r GIG yng Nghymru trwy gefnogi gofal sylfaenol a chryfhau capasiti o fewn y gweithlu canser, gan sicrhau bod ganddynt yr offer a'r technolegau cwbl fodern hanfodol. Dylai hyn gael ei ategu gan gasglu data cywir a chynllunio gweithlu hirdymor ar gyfer canser, i sicrhau ein bod yn adeiladu gwasanaeth iechyd sydd nid yn unig yn ateb anghenion heddiw ond mae'n barod i wynebu heriau yfory.

Argymhelliad 3

Ymladd canser yr ysgyfaint - y lladdwr mwyaf gan ganser yng Nghymru.

Mae tybaco yn achosi tua 2 mewn 3 canser yr ysgyfaint ac mae'n gyfrifol am tua 4,100 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.

Mae gweithredu eofn yn ofynnol i atal cymaint o achosion canser yr ysgyfaint â phosibl, trwy weithredu a gorfodi'r Bil Tybaco a Fêps a chryfhau gwasanaethau rhoi'r gorau i ysmygu i helpu pobl i roi'r gorau iddi.

Dylai rhaglen sgrinio genedlaethol canser yr ysgyfaint Cymru gael ei gweithredu cyn gynted â phosibl i ddarganfod rhagor o achosion canser yr ysgyfaint yn gynnar, pan fyddant yn fwy triniadwy ac mae goroesi ar ei uchaf.

Argymhelliad 4

Cryfhau'r ecosystem ymchwil ac arloesi i alluogi ymchwil i ffynnu a chael arloesiadau i gleifion yn gyflymach.

Gall Llywodraeth Cymru gryfhau'r sylfaen ymchwil yng Nghymru â gweithredu i gefnogi buddsoddiad ymchwil sylfaenol i mewn i brifysgolion. Dylai hyn gael ei yrru gan bartneriaeth rhwng arweinyddion systemau ymchwil sy'n canolbwyntio ar feysydd o gryfder cymharol yng Nghymru.

Mae cryfhau ein ecosystemau arloesedd yn hanfodol hefyd i gael offer a thechnolegau newydd i gleifion yn gyflymach. Dylai hyn gael ei wireddu trwy gyflymu llwybrau at fabwysiadu, cymell gweithgaredd ymchwil o fewn y GIG ac adnabod a blaenoriaethu technolegau newydd yn eglur.

Cysylltwch â ni

Am ragor o wybodaeth am ein maniffesto i Gymru, e-bostiwch ni:

Simon Scheeres

Rheolwr Materion Cyhoeddus (Cymru)

Email iconSimon.Scheeres@cancer.org.uk

References

  1. Arrow return up icon

    Cancer Research UK, Lifetime risk of cancer. Available at: cruk.org/lifetimerisk


Stay connected

Follow @CRUKCymru on X

News, updates and opinion, posted weekly.