
You can read this content in English.
Read in EnglishCanser yw prif achos marwolaeth yng Nghymru, gan effeithio ar deuluoedd ym mhobman. Dyna pam mae angen i bob plaid wleidyddol ymrwymo i gyflawni'r newid polisi hirdymor y mae ei angen ar gyfer pobl y mae canser yn effeithio arnynt.
Gallai'r etholiad hwn fod yn drobwynt i ganser yng Nghymru. Ond mae angen eich help arnom.
Rydym wedi gwneud cynnydd enfawr ym maes canser yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Ac eto, yng Nghymru, nid oes cynllun hirdymor i fynd i'r afael â chanser; mae'r GIG yn ei chael hi'n anodd bodloni'r galw cynyddol, ac mae anghydraddoldebau clir yng nghanlyniadau canser.
Dyna pam, ym mis Medi, gwnaethom nodi pedwar cam allweddol y gall Llywodraeth nesaf Cymru eu cymryd i helpu i achub oddeutu 5,500 o fywydau rhwng nawr a 2040
.O ran trechu canser, mae strategaethau canser hirdymor sydd wedi'u cefnogi'n dda yn allweddol i lwyddiant. Dyna pam mae angen strategaeth canser genedlaethol arnom yng Nghymru, sy'n nodi cynllun hirdymor ar gyfer atal, diagnosis, triniaeth ac ymchwil i ganser.
Mae'r gweithlu canser yn gweithio'n galed i ddarparu gwasanaethau canser i bobl ledled Cymru, ond maent yn parhau i weithio mewn amodau cynyddol heriol. Rhaid i ni gryfhau'r GIG yng Nghymru drwy gefnogi meddygon teulu a chryfhau capasiti o fewn y gweithlu canser, gan sicrhau bod ganddynt yr offer a'r technolegau cwbl fodern hanfodol. Mae hyn yn cynnwys gwella casglu data a chynllunio gweithlu hirdymor.
Canser yr ysgyfaint yw'r achos mwyaf cyffredin o farwolaeth o ganser yng Nghymru. Gan mai tybaco yw prif achos canser yr ysgyfaint, mae atal y canserau hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf yn hanfodol. Er mwyn mynd i'r afael â chanser yr ysgyfaint, rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r Bil Tybaco a Fêps ar waith, gan gryfhau gwasanaethau rhoi'r gorau i smygu, a chyflwyno rhaglen sgrinio am ganser yr ysgyfaint ledled Cymru.
Mae ymchwil yn allweddol i wella atal canser, diagnosis cynharach, a thriniaethau mwy effeithiol. Gall Llywodraeth Cymru gefnogi hyn drwy fuddsoddi ym mhrifysgolion Cymru a chryfhau arloesedd i gael profion, triniaethau a thechnolegau newydd i mewn i'r system gofal iechyd yn gyflymach.

Darllenwch ein maniffesto i ddysgu rhagor am y newid polisi yr ydym yn galw amdano.
Scotland could save around 10,100 lives and Wales could save around 5,500 with urgent, focused action against cancer, according to our latest analysis.
Yn ystod cyfnod yr etholiad hwn a'r tu hwnt, mae angen Llysgenhadon Ymgyrchoedd yng Nghymru yn fwy nag erioed i helpu i gysylltu â gwleidyddion lleol, rhannu straeon anogol, a lledaenu'r neges am ein hymgyrch i wella canlyniadau canser.